COFNODION Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant yn ein Gofal
12 Rhagfyr 2023, 11.00-12.00, Ystafell Fideo-gynadledda Tŷ Hywel (Hybrid)
Noddwyd gan Jane Dodds AS
1. Croeso
Agorodd Jane Dodds AS y cyfarfod drwy groesawu pawb a oedd yn bresennol, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein. Nododd y byddai’r cyfarfod heddiw yn canolbwyntio ar y Papur Gwyn ar ddigartrefedd a’i effaith ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a pha gamau y gallwn eu cymryd yn y maes hwn yn y dyfodol. Nodwyd y byddai’r cyfarfod hefyd yn cynnig cyfle i drafod y broses o benodi’r Comisiynydd Plant a sut y gellir ymgorffori’r broses hon yn y Ddeddf plant, babanod a phobl ifanc arfaethedig y mae’r grŵp trawsbleidiol yn gweithio arni.
2. Yn bresennol ac ymddiheuriadau
Enw |
Sefydliad |
E-bost |
Jane Dodds AS |
Aelod o'r Senedd |
jane.dodds@senedd.cymru |
Helen Mary Jones |
Voices from Care Cymru |
helenmary.jones@vfcc.org.uk |
Phoebe Jenkins |
Ymchwilydd, Swyddfa Jane Dodds |
phoebe.jenkins@senedd.cymru |
Rhys Taylor |
Uwch Gynghorydd, Swyddfa Jane Dodds |
rhys.taylor@senedd.cymru |
Freya Reynolds-Feeney |
Swyddfa'r Comisiynydd Plant |
feeney@childcomwales.org.uk |
Elizabeth Bryan |
Y Rhwydwaith Maethu |
elizabeth.bryan@fostering.net |
Sharon Lovell |
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol |
sharon.lovell@nyas.net |
Sian Thomas |
Ymchwil y Senedd |
sian.thomas@senedd.cymru |
Shaun Bendle |
Llamau |
|
Beth Gallivan |
Llamau |
|
Jennie Bibbings |
Ymchwil y Senedd |
Jennie.bibbings@senedd.cymru |
Ann Bell |
Adoption UK |
ann@adoptionuk.org.uk |
Tiff |
|
|
Sarah Durrant |
TGP Cymru |
sarah.Durrant@tgpcymru.org.uk |
Elizabeth Bryan |
Y Rhwydwaith Maethu |
elizabeth.bryan@fostering.net |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ymddiheuriadau
Mark Isherwood AS
Jack Sergeant AS
Sarah Murphy AS
Sioned Williams AS
3. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant yn Ein Gofal
Agorodd Jane Dodds AS y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a siaradodd Helen Mary Jones o Voices from Care Cymru am yr Adroddiad Blynyddol 2023 atodedig, a chadarnhaodd fod y papurau wedi’u dosbarthu ymlaen llaw.
Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer rôl y Cadeirydd yn y dyfodol – cafodd Jane Dodds ei henwebu’n ysgrifenedig gan Jack Sargeant AS a Mark Isherwood AS.
Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer rôl yr Is-gadeirydd yn y dyfodol –
Cafodd yr ysgrifenyddiaeth ei phenodi – Helen Mary Jones o Voices From Care Cymru
4. Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol eu cytuno ac roedd pawb yn fodlon parhau â’r cyfarfod.
5. Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd a’r goblygiadau posibl i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Cafwyd cyflwyniad gan Sharon Lovell (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, neu NYAS) a Beth Gallivan a Shaun Bendle (Llamau)
Sharon Lovell,Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
Nododd ei bod yn ddiolchgar am y cyfle i siarad â’r grŵp. Mynegwyd pryderon ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027, o gofio bod lefelau digartrefedd yn uwch nawr nag yn 2014. Rhannwyd rhai penawdau ynghylch y newidiadau arfaethedig yn y Papur Gwyn sy’n destun ymgynghoriad tan 15 Ionawr:
Cynnig i ddileu'r angen blaenoriaethol ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal fel rhan o'r broses asesu; roedd wedi ei harswydo wrth ddarllen am y newid hwn, oherwydd mae’n rhaid i bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal gael eu blaenoriaethu wrth gynnig cymorth. Roedd yn cytuno ei fod yn dda mewn egwyddor, gyda phawb yn gyfartal o ran hawliau dynol, ond roedd hefyd yn pryderu am y canlyniadau gwirioneddol ar lawr gwlad. Roedd yn cytuno hefyd â’r argymhelliad ynghylch bwriadoldeb gwledig a dileu’r cysylltiad lleol, a fydd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd.
Sean Bendle(Llamau)
Yn anffodus, nid oedd modd dangos y cyflwyniad PowerPoint gan Llamau, ond nodwyd y byddai’r sleidiau'n cael eu dosbarthu ar ôl y cyfarfod. Rhoddodd Sean gefndir a chyd-destun gwaith Llamau, yn ogystal â gwybodaeth am y broses o lunio’r Papur Gwyn – gan ddechrau gyda Phanel Arbenigol a gomisiynwyd gan Crisis. Siaradodd am y cynigion yn y Papur Gwyn yr oedd Llamau yn cytuno â nhw, yn ogystal ag argymhellion posibl:
Mae Llamau yn cytuno â dileu angen blaenoriaethol, cael gwared ar fwriadoldeb ac addasu'r prawf cysylltiad lleol yn helaeth.
Cafwyd amlinelliad o’r darpariaethau allweddol sy’n berthnasol i’r grŵp, sef: cryfhau cyfrifoldebau rhianta corfforaethol, llety dros dro i bobl ifanc 16-17 oed, gwahardd digartrefedd fel ffordd allan o ofal neu’r system gyfiawnder ieuenctid. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn trafod dyletswyddau ataliol a phryd y cânt eu sbarduno, yn ogystal â’r ddadl ynghylch a ddylai pobl ifanc 16-17 oed fod yn ddeiliaid contract meddiannaeth.
Beth Gallivan(Cydgysylltydd Ieuenctid ac Ymgysylltu gyda Llamau)
Mae Beth wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ymhlith pobl ifanc i glywed eu barn am ddigartrefedd a’r Papur Gwyn. Roedd am bwysleisio bod y gwaith yn mynd rhagddo o hyd ac mai dyma'r manylion sydd wedi dod i law hyd yma. Fodd bynnag, efallai y bydd y manylion hyn yn newid dros amser wrth i ragor o ymatebion ddod i law.
Diddymu'r angen blaenoriaethol. Nid oes unrhyw un o’r bobl ifanc wedi cytuno â'r cynnig hwn hyd yma. Mynegwyd pryder y byddai'n creu rhwystr arall iddynt rhag cael mynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt.
Bwriadoldeb. Ymatebion cymysg gan bobl ifanc. Gwnaethant ofyn llawer o gwestiynau am y syniad o bwy sy'n haeddu cymorth. Dywedodd Beth fod y bobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yn ymwybodol iawn o’r galw aruthrol am dai, a dywedodd llawer ohonynt eu bod yn teimlo eu bod mewn diwylliant o gystadlu am adnoddau. Roedd amharodrwydd i'w symud oherwydd y syniad y gallai hynny ychwanegu at yr anawsterau o ran cael mynediad at gymorth.
Ardal leol. Gwnaed y pwynt nad yw’r Papur Gwyn yn cynnig diddymu’r cysylltiad lleol; yn hytrach, mae’n cynnig diwygio’r ddarpariaeth hon. Mae yna wahanol resymau pam bod pobl ifanc yn awyddus i symud i wahanol ardaloedd, gan gynnwys: dianc rhag trais, tlodi a chamdriniaeth; mynediad at gyfleoedd addysg a chyflogaeth; dyletswyddau gofal plant; amgylchedd teuluol gwenwynig a bwlio. Roedd Llamau yn eiriol o blaid y newid hwn, gan ddymuno i bob person ifanc o dan 25 gael ei eithrio o’r ddarpariaeth hon.
Dyletswydd newydd i nodi ac atgyfeirio: ymateb cadarnhaol gan bobl ifanc. Soniwyd am bwysigrwydd cynnwys byd addysg, a mynegwyd pryderon ynghylch diffyg rhyngweithio rhwng gwasanaethau; er enghraifft, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol ac ati.
Nid deddfwriaeth yw'r ateb; yn hytrach, mae'n bwysig newid diwylliant.
Mae'r ysgol yn lle diogel i bobl ifanc ac mae byd addysg yn llawn potensial fel arf i atal digartrefedd oherwydd perthnasoedd sy'n cael eu meithrin o fewn yr amgylchedd hwnnw. Mynegwyd pryder nad oedd yr elfen addysg wedi’i chynnwys yn y papur.
Cynnig i bobl ifanc 16-17 oed fod yn ddeiliaid contract meddiannaeth (hynny yw, bod ganddynt denantiaeth eu hunain): roedd 50 y cant yn anghytuno a 25 y cant yn cytuno, a dywedodd 25 y cant nad oeddent yn siŵr – rhaniad o 50/50. Mae’n rhaid gwneud llawer mwy o waith o amgylch yr elfen hon i sicrhau bod y polisi’n cael ei weithredu’n effeithiol; er enghraifft, rheoliadau.
Pobl ifanc 16-17 oed yn fwy cyffredinol – roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc yr ymgynghorwyd â nhw â phrofiad o fod mewn gofal. Beth ellir ei wneud i gryfhau cyfrifoldebau rhianta corfforaethol? Roedd yr atebion yn syml – gwrando, clywed, cydnabod. Teimlwyd bod y gefnogaeth yn rhy gyffredinol a rhagnodol, a bod angen iddi gael ei theilwra i’r unigolyn. Weithiau, ni roddir digon o gefnogaeth i'r uned deuluol. Soniwyd am adnoddau, neu ddiffyg adnoddau.
Dylid blaenoriaethu pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal - roedd 65 y cant o ymatebwyr yn cytuno bod y cynnig hwn yn syniad da, tra bod ychydig dros 30 y cant yn anghytuno.
Jennie Bibbings(ymchwilydd yn y Senedd)
Roedd Jennie yn rhan o Adolygiad y Panel Arbenigol cyn cyhoeddi’r Papur Gwyn. Roedd hi’n awyddus i ganolbwyntio ar adrodd y ffeithiau, a’r gwahaniaeth mawr rhwng Adolygiad y Panel Arbenigol a'r argymhellion a gyflwynwyd yn y Papur Gwyn. Er enghraifft, yn ôl Adolygiad y Panel Arbenigol, dylai unigolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal gael mwy o flaenoriaeth o ran tai, hyd yn oed os nad ydynt yn ddigartref; hynny yw, ni ddylent orfod bod yn ddigartref i gael cartref.
Hefyd, nid yw'r Papur Gwyn yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at ardal leol mewn perthynas â dyraniadau tai arferol lle nad yw'r unigolyn yn wynebu digartrefedd – mae hyn yn peri pryder.
Jane Dodds i Beth Gallivan– gofynnodd faint o bobl yr ymgynghorwyd â nhw, a faint o’r bobl hyn oedd â phrofiad o fod mewn gofal.
Beth – ymgynghorwyd â rhwng 10 a 15 o bobl ifanc; roedd 5-10 y cant ohonynt â phrofiad o fod mewn gofal.
Cynhaliwyd grŵp ffocws o 4-5 o bobl oedd â phrofiad o fod mewn gofal a gefnogwyd gan Voices From Care
Ymatebion i'r arolwg – 4 o bobl â phrofiad o fod mewn gofal
Gwnaeth Jane Dodds y pwynt, er nad oedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr â phrofiad o fod mewn gofal, eu bod am eu cefnogi.
Sharon Lovell i Beth Gallivan
Yn dilyn ymlaen o'r sylw nad oedd addysg wedi’i chynnwys yn y ddyletswydd statudol, mynegodd bryderon ynghylch gwaith ieuenctid. Mae gwaith ieuenctid yn dod o dan y portffolio addysg.
Ymateb Beth Gallivan
Nid oedd unrhyw beth yn y ddyletswydd sy’n cyfeirio at weithwyr ieuenctid; felly, os yw gweithwyr ieuenctid yn dod o dan y portffolio addysg, nid ydynt wedi’u cynnwys yn y broses.
Dywedodd Sharon y bydd yn gwirio hyn gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru.
Camau gweithredu a drafodwyd.
Jane Dodds i Sean Bendle a Beth Gallivan
Gofynnodd sut y byddant yn dwyn y gwaith hwn yn ei flaen.
Atebodd Sean a Betheu bod yn ymateb ar sawl achlysur ar ran pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac yn parhau i gasglu tystiolaeth ar y materion cysylltiedig. Awgrymodd Jane y dylid gwahodd Gweinidogion y Llywodraeth i un o gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol i wrando ar y drafodaeth, ac roedd pawb arall yn cytuno â’r syniad hwn.
Wrth drafod camau gweithredu ar gyfer codi ymwybyddiaeth o’r materion perthnasol, gofynnwyd sut y gellir gwneud hyn. Mewn ymateb, soniodd Jane am gynnwys y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yng ngwaith y grŵp trawsbleidiol.
Nododd Sian Thomas (ymchwilydd yn y Senedd) nad oedd am siarad ar ran Aelodau’r pwyllgor, ond ei bod yn debygol y byddai'r pwyllgor yn dymuno ymateb i'r mater dan sylw gan fod yr Aelodau eisoes wedi trafod y Papur Gwyn ar ddigartrefedd a'i oblygiadau ar blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd yn rhannu pryderon tebyg ynghylch canfyddiadau’r Panel Arbenigol a’r ffaith nad yw’r Papur Gwyn yn adlewyrchu hyn, gan gynnwys y syniad bod pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ffurfio chweched categori blaenoriaeth.
Bu sgwrs ymhlith aelodau’r grŵp ynghylch cysylltu â’r pwyllgor i drafod yr hyn y gallant ei wneud i wrando ac ymateb, gan grybwyll y syniad o gynnal ymchwiliad byr yn ystod tymor y Senedd hon.
6. Papur Gwyn ar Gamau Gweithredu ynghylch Digartrefedd
1. Sharon Lovell i siarad â swyddogion Llywodraeth Cymru i wirio a yw gweithiwr ieuenctid, fel rhan o’r portffolio addysg, wedi'u cynnwys yn y ddyletswydd statudol
2. Sharon Lovell i holi'r Gweinidog Addysg ynghylch dyrannu cyllid i awdurdodau lleol a swyddogion digartrefedd ieuenctid
3. Bydd y grŵp trawsbleidiol yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Tai i ofyn a oes posibilrwydd y gallant gydweithio i gynnal ymchwiliad byr i ddigartrefedd a phobl ifanc
4. Helen Mary Jones a Phoebe Jenkins (aelod o staff Jane Dodds) i lunio ymateb ffurfiol byr i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Ddigartrefedd cyn iddo ddod i ben ym mis Ionawr
5. Jane Dodds i ofyn, naill ai drwy lythyr neu drwy gyfraniad yn y Siambr, pam nad yw addysg wedi’i nodi fel dyletswydd statudol yn y Papur Gwyn
6. Jane Dodds i ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Tai a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol yn gofyn pam eu bod wedi mynd yn erbyn canfyddiadau’r panel arbenigol - beth yw’r rhesymeg a’r dystiolaeth sy’n sail i’r newid hwn?
7. Model llywodraethu ar gyfer y Comisiynydd Plant
Cafwyd trafodaeth am y sylw diweddar yn y wasg yn cwestiynu rôl y Comisiynydd Plant os nad yw’r Llywodraeth yn gwrando arni. Rhannwyd gwaith ymchwil perthnasol cyn y cyfarfod, a gofynnodd Jane Dodds i aelodau’r grŵp am eu barn gychwynnol ar y rôl a’r hyn y gellir ei wneud i gyrraedd pwynt lle bo modd sicrhau newid. Rhoddodd Helen Mary Jones ddisgrifiad byr o'r rôl yng Nghymru mewn ymateb i gwestiwn Jane Dodds. Roedd Sharon Lovell am wybod pam bod newid yn cael ei wrthod os oedd galw cyson am y newid hwn, a dywedodd Sian Thomas fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn gwneud gwaith o amgylch y pwnc hwn ar hyn o bryd.
Camau i’w cymryd:
7. Ysgrifennu’n ffurfiol at y Comisiynydd Plant i ofyn ei barn ar y broses benodi yn ogystal â’r pwerau sy’n gysylltiedig â’r rôl a’r trefniadau llywodraethu.
8. Unrhyw fater arall
Dywedodd Jane Dodds, fel Cadeirydd, na fydd y mater hwn ar yr agenda o'r flwyddyn nesaf ymlaen gan fod llawer o faterion eraill i'w trafod.
Dywedodd Sharon Lovell fod Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi gofyn am ymateb i’r diweddariad ar ddiwygio radical, ond nad oedd wedi gweld unrhyw ymateb eto (gweler y camau gweithredu)
Rhannodd Jane Dodds bryder ynghylch lleoliadau heb eu cofrestru a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yn dilyn cyhoeddiad Andrew McFarlane na fydd y materion hyn yn mynd i’r llys mwyach oherwydd capasiti. Mynegwyd pryderon ar y pwynt hwn o ran trefniadau goruchwylio a sut y gellir herio penderfyniadau yn y maes hwn.
Camau gweithredu eraill
8. Helen Mary Jones, Sharon Lovell a Jane Dodds i gydweithio ar lunio ymateb i leoliadau anghofrestredig a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yn y llysoedd, yn sgil y cyhoeddiad ynghylch newid i weithdrefnau’r llysoedd.
9. Ysgrifennu’n ffurfiol at y Gweinidog, gan anfon copi at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr argymhellion ar ddiwygio radical, gan rannu copi o’r llythyr hwn ag aelodau’r pwyllgor.
10. Helen Mary Jones a Phoebe Jenkins i drefnu amser ar gyfer cyfarfod ddiwedd mis Ionawr/Chwefror i ffurfio grŵp craidd i ganolbwyntio ar y Ddeddf Plant newydd.
11. Helen Mary Jones a Phoebe Jenkins i lunio ymateb cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 15 Ionawr
Daethpwyd â’r cyfarfod i ben, a diolchodd Jane Dodds i bawb am eu hymrwymiad i’r gwaith yn y maes hwn, y tu mewn a thu allan i’r grŵp trawsbleidiol.
Wrth symud ymlaen, nodwyd y byddai’r grŵp yn canolbwyntio ar y pynciau a ganlyn:
o Eiriolaeth statudol
o Lleoliadau heb eu rheoleiddio ac wedi’u rheoleiddio
o Dechrau ar y gwaith ar Ddeddf newydd ynghylch babanod, plant a phobl ifanc. Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi galw am sefydlu rôl weinidogol benodol yn y maes hwn – rydym am weld yr argymhelliad hwn yn cael ei ddwyn ymlaen.
Dyddiad y cyfarfod nesaf:
Dydd Mercher 21 Chwefror